Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 23
Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Yng Nghymru
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
(45 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd
(30 munud)
6 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg
(30 munud)
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021
(20 munud)
NDM7838 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)(Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)
(15 munud)
NDM7837 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
9 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog
(15 munud)
NDM7836 Hannah Blythyn (Delyn)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Lluoedd Arfog i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd
(60 munud)
NDM7835 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21).
2. Yn nodi Adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg (2016-20).
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21)
Adroddiad 5 Comisiynydd y Gymraeg (2016-20)
11 Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
(30 munud)
NDM7834 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru dros flwyddyn ariannol 2020-2021.
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Trydydd Adroddiad Blynyddol 2020-2021
12 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2021